Croeso i Conwy Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Treth Bagiau 5c Cymru

Postiwyd gan G1nge20 o Casnewydd - Cyhoeddwyd ar 30/09/2011 am 11:44
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Hinsawdd, Diwylliant, Addysg, Amgylchedd, Pobl

  • bagiau

English version

O fory ymlaen, bydd siopwyr yng Nghymru yn gorfod talu lleiafrif o 5c am bob bag plastig maent yn defnyddio.

Mae hwn yn ymgais gan Lywodraeth Cymru i dorri lawr ar y nifer ormodol o fagiau sydd yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru yn flynyddol.

Mae'r ddeddfwriaeth yn gorfodi manwerthwyr yng Nghymru i gadw cofnod o'r nifer o fagiau maent yn rhoi allan ac yn rhoi cyfrif o ble mae'r elw o werthu bagiau plastig yn mynd. Mae'r cymysgedd o gefnogaeth tuag at gyflwyniad y tâl ar hyn o bryd ac mae'n anodd gweld sut bydd hyn yn cael ei ganfod gan y cyhoedd yng Nghymru.

Y mathau o fagiau sydd yn cael eu cynnwys o fewn y ddeddfwriaeth ydy:

  • Plastig
  • Papur (bagiau papurau tai bwyta bwyd sydyn ayb.)
  • Rhan-plastig
  • Wedi'i ailgylchu
  • Plastig diraddadwy (oherwydd y dryswch dros ba leoliadau sydd yn gwneud diraddadwy a'r rhai sydd ddim, byddant nhw hefyd yn destun i'r tâl).

Dywedodd Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths AC, hyn ar ôl ei benderfyniad:

"Llynedd yng Nghymru roedd 273 o fagiau plastig ar gyfartaledd ar gyfer pob cartref o'r archfarchnadoedd mawr yn unig, ac nid yw'r ffigwr hon yn cyfrif am y nifer o fagiau rydym yn ei godi wrth siopa ar y stryd fawr neu mewn siopau bach."

"Mae'r mwyafrif o'r bagiau yn hollol ddianghenraid. Maent yn annibennu ein cypyrddau, yn sbwriel dros ein gwlad neu'n eistedd mewn safleoedd tirlenwi ble maent yn cymryd rhwng 500 a 1000 o flynyddoedd i ddiraddio."

"Mae'r tâl bagiau cario i gyd yn ymwneud â helpu ni i dorri lawr ar y nifer o fagiau cario rydym yn defnyddio. Mae'n bolisi sydd wedi'i chroesawu gan bobl dros Gymru ac yn newyddion da iawn i'n gwlad."

Cymru ydy'r genedl gyntaf o fewn y DU i basio deddfwriaeth yn cyflwyno treth ar fagiau cario un defnydd. Roedd cynnig yn Yr Alban ychydig flynyddoedd yn ôl ond roedd hyn yn niffyg cefnogaeth seneddol i barhau.

Dywedodd John Griffiths hefyd, "Dwi yn falch ein bod ninnau yng Nghymru yn cymryd y blaen yn y DU mewn cyflwyno tâl. Bydd hyn yn sicrhau fod y bobl yn meddwl, ac yn siarad am y broblem o fagiau cario un defnydd, Maent yn wastraff adnoddau, yn broblem fel sbwriel ac yn symbol o gymdeithas lluchio i ffwrdd."

Mae'r ffaith fod Cymru wedi cyflwyno cyntaf arall yn gallu rhoi teimlad positif fod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd ar amryw o faterion. Ond eto mae eraill yn meddwl mai dim ond arbrawf mochyn-cwta cyn i weddill y DU gysidro'r mater ymhellach ydyw.

Rhoddodd Gweriniaeth Iwerddon dreth ar fagiau cario un defnydd ychydig dan ddegawd yn ôl. Adroddwyd cwymp o 94% mewn defnydd bagiau plastig dwy wythnos ar ôl ei gyflwyno gyda'r dreth yn 33€c (cyfartal i 30c yn y DU). Felly'r cwestiwn ydy, fydd y llwyddiant gwelwyd gan ein cymdogion yn Iwerddon yn cael ei adlewyrchu yma yng Nghymru? Nid oes dim yn ganiataol ond mae'r Llywodraeth yn credu, yn ôl ymddygiad presennol, bydd agos at £2.6 miliwn yn cael ei godi a dylai hyn fynd i'r grwpiau elusennol/lleol.

Mae'r materion sydd yn cael eu codi gyda'r tâl wedi cael ei drafod yn yr Iwerddon hefyd, ond wedi'i wrthbrofi gyda'r ddadl ei fod yn rhoi dewis wrth wneud i bobl feddwl am a newid  eu hymddygiad a'u harferion. Nid yw'r ddeddfwriaeth yng Nghymru yn mynd i mewn i fanylder am ble fydd "treth" 5c pobl yn ei fynd heblaw am y ffaith ei fod yn ddewis y manwerthwr. Mae'r llywodraeth yn gobeithio fod y manwerthwyr yn rhoddi'r arian i elusen neu grwpiau amgylcheddol lleol, ond mae'n parhau i fod yn opsiwn gwirfoddol yn hytrach na gorfodol. Y rhan hwn o'r ddeddfwriaeth sydd wedi gweld wynebu'r negatifedd mwyaf, oherwydd bod hyn yn caniatáu i'r manwerthwyr gadw'r arian iddyn nhw eu hunain. Mae'r Llywodraeth yn dadlau bydd pwysau cyhoeddus yn sicrhau nad yw hyn yn digwydd a byddai hefyd yn creu cod gwirfoddol o ymarferiad gall y manwerthwyr ddilyn.

Mathau o fagiau sydd yn eithrio o'r tâl:

  • Bwydydd sydd heb eu pecynnu (ffrwythau a llysiau rhydd, bara, melysion cymysg ayb)
  • Creaduriaid dyfrol byw mewn dŵr (pysgod, cwrel, crancod ayb)
  • Llafnau heb eu pecynnu (bwyell, llafn cyllell neu lafn rasel)
  • Hadau a bylbiau rhydd
  • Pysgod neu gig amrwd wedi'u pecynnu.
  • Bagiau ar fwrdd llongau, trenau, awyrennau, coetsys neu fysus.
  • Meddygol (presgripsiwn a meddygon eraill o du ôl i'r cownter)

Bydd busnesau bach sydd yn cyflogi llai na deg o bobl ddim yn gorfod nodi faint o fagiau sydd yn cael ei roi allan.

Mae'r  Gweinidog Amgylchedd yn gobeithio bydd pobl dros Gymru yn ceisio osgoi'r tâl bagiau cario yn gyfan gwbl:

"Syniad y tâl ydy nid i wneud i bobl dalu am fagiau cario. Ond i annog siopwyr i wneud defnydd o fagiau sydd ganddynt yn barod.

"Gall pawb osgoi'r tâl drwy gofio cario bagiau gall ail ddefnyddio pan rydym yn siopa.

"Rydym yn gwybod nad yw lleihau ein defnydd o fagiau cario yn mynd i ddatrys ein problemau amgylcheddol, ond mae'r tâl yn rhoi neges bwysig am yr angen i ni fyw bywydau llawer mwy cynaliadwy."

Mae'r lefel o 5c am fag cario wedi cael ei osod am fod Llywodraeth Cymru yn credu ei fod ddigon uchel i annog pobl i newid eu harferion siopa ond ddim mor uchel fel ei fod yn atal siopa byrbwyll neu yn rhoi baich sylweddol ar siopwyr sydd wedi anghofio eu bagiau ail ddefnyddio.

"Yn ddiweddar, cafodd ffigyrau ei gyhoeddi yn dangos fod y bobl yng Nghymru wedi lleihau eu defnydd o fagiau cario o 7% dros y flwyddyn ddiwethaf. Dwi'n hyderus bydd y tâl yn helpu hyn ymhellach ac rwyf yn gobeithio fod ffigyrau flwyddyn nesaf yn dangos lleihad arall," ychwanegodd y gweinidog.

Mae'r Llywodraeth wedi cael ei gyhuddo o gyfathrebu sâl gan ystyried fod nifer o fanwerthwyr yn parhau i fod yn ddryslyd i ble maen nhw'n ffitio yn y tâl. Mae rhai yn credu eu bod wedi'u hesgusodi o'r tâl gan eu bod yn cyflogi llai na deg o bobl ond nid dyma'r gwir, dim ond wedi'u hesgusodi o gadw cofnod o sawl bag sydd yn cael ei roi allan maen nhw. Gyda llai na mis nes i'r ddeddfwriaeth gychwyn mae'r Llywodraeth angen radicaleiddio'r neges llawer gwell, mae gwefan, ond mae'r ymwybyddiaeth ohono yn fychan iawn.

Bydd 'cyfnod setlo' tri mis yn cael ei roi i'r manwerthwyr i roi amser iddynt weithredu eu cynllun gweithredu yn ogystal â deall y ddeddfwriaeth. Ar ôl tri mis, bydd methiant i gydymffurfio yn golygu bydd y manwerthwr/darparwr yn wynebu dirwy o £5000 gyda'r arian yn mynd yn ôl i mewn i'r pot cyhoeddus i ariannu'r amryw wasanaethau cyhoeddus. Mae nifer o manwerthwyr wedi awgrymu yn barod byddent yn llyncu'r tâl os yn bosib oherwydd y teimlad o embaras o geisio cyfathrebu'r mater, yn fwy penodol i ymwelwyr fydd yn teimlo, maen nhw'n dadlau, fod siopau Cymru yn grintachlyd.

Mae rhai unigolion yn dadlau fod hyn yn dâl "gwirion" neu'n "ddiangen" ar unigolion am fater mor "fach". Maent yn credu dylai sylw gael ei ganolbwyntio ar frwydro'r cwmnïau a'r pecynnu gormodol maent yn creu ar gyfer eu cynnyrch. Mae eraill wedi dweud bydda'n well ganddynt groesi'r ffin yn hytrach nag wynebu'r tâl o 5c y bag, eironig gan y byddai'n costio o leiaf £6 mewn petrol i wneud hyn. Y math yma o feddylfryd mae'r tâl yn ceisio ei newid.

Ar y cyfan mae dryswch dros sut bydd y ddeddfwriaeth hon yn affeithio busnesau yng Nghymru; ond mae gobaith bod unrhyw faterion wedi'u hateb erbyn Hydref 1af. Mae canfyddiad a chefnogaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn aneglur. Ond mae'r ddeddfwriaeth ar y cyfan yn gam positif at ymateb i fater amgylcheddol pwysig; bydd y Llywodraeth yn monitro sut bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei weithredu ac ymateb i'r mater o wastraff ar y cyfan dros y blynyddoedd nesaf.

Newyddion – Amgylchedd

GwybodaethAmgylcheddPoblAilgylchu

DELWEDD Christmas @ Eden 2007_S12570 gan Ennor

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50